Datrys problemau - yn aml iawn, pan fyddwn ni am wneud rhywbeth, mae problem yn ein hatal ni. Ceir saith cam i ddatrys problem:
- Canfyddwch y wir broblem - mae dod o hyd i wraidd y broblem yn bwysig iawn yn hytrach na chanolbwyntio ar ganlyniad y broblem.
- Lluniwch restr o'r holl ddatrysiadau posibl - edrychwch ar y darlun ehangach i'ch helpu i feddwl am opsiynau gwahanol ar gyfer gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol
- Dewiswch un o'r syniadau o'r rhestr rydych chi wedi'i llunio a rhowch gynnig arno.
- A weithiodd hwnnw? - os yw'r syniad yn gweithio yna mae'r broblem wedi'i datrys, os naddo.
- Dewiswch un arall o'ch rhestr; gallwch fynd drwy bob un o'r syniadau yn eu tro tan i chi ddod o hyd i un sy'n gweithio i chi.
- Chwiliwch am help o fannau eraill - os ydych chi wedi rhoi cynnig ar bob syniad ar eich rhestr heb lwyddo i ddatrys eich problem, gofynnwch am help gan bobl eraill megis teulu, ffrindiau, pobl broffesiynol neu bobl â phroblemau tebyg i chi a allai fod yn rhan o grwp rheoli poen.
- Rhowch y broblem i'r naill ochr am gyfnod - ambell waith rhaid i chi dderbyn nad oes modd i chi ddatrys y broblem honno ar unwaith, efallai y bydd rhaid i chi aros nes eich bod yn teimlo ychydig yn well neu, er enghraifft, nes bod amgylchiadau eich gwaith neu gartref yn newid. Beth bynnag rydyn ni'n ei gynllunio, gall bywyd ddod ar ein traws, ac mae'n iawn i chi roi caniatâd i'ch hun oedi ychydig wrth ddatrys y broblem ambell waith!