Cefnau Cymru

Os ydych yn gyflogwr

Mae poen cefn yn effeithio'n sylweddol ar y gweithle ac mae'r adran hon yn cynnwys cyngor a chymorth i'ch helpu chi i reoli poen cefn yn y gweithle.

Mae aros yn y gwaith yn ffordd dda i rywun â phoen cefn gadw'n brysur a gwneud pethau arferol. Nid oes rhaid i weithiwr fod yn rhydd o boen cyn mynd yn ôl i'r gwaith.

Gallwch helpu eich gweithiwr i aros yn y gwaith er gwaethaf poen cefn drwy ddeall y gall fod yna dasgau sy'n anoddach iddynt. Ystyriwch sut y gallai eu swydd gael ei haddasu i ysgafnhau'r baich, ond ar yr un pryd eu galluogi i barhau i weithio. Cofiwch, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr o boen cefn ac yn gallu ailafael yn fuan yn eu holl ddyletswyddau.

Cliciwch i weld canllawiau ac ymarferion rhyngweithiol am sut i'ch dal eich hun

Work Boost Wales Logo I gael cyngor diduedd am ddim am reoli poen cefn yn y gweithle, cysylltwch â Cyswllt Iechyd yn y Gweithle ar 0845 609 6006 neu ymwelwch â www.workboostwales.org.uk


HSE Logo Mae'r HSE hefyd yn rhoi gwybodaeth am reoli poen cefn yn y gweithle ar eu gwefan: www.hse.gov.uk/msd/backpain/


Backcare UK Logo Mae Backcare UK hefyd yn cynnig cyngor am beth i'w wneud os yw poen cefn yn effeithio arnoch chi yn y gwaith www.backcare.org.uk

Prof Mansel Aylward

Welsh Backs will contribute substantially to improving the health and well being of people in Wales
Dwi nawr yn deall mai cadw'n brysur yw'r driniaeth orau ar gyfer fy mhoen.
Gabby Logan
Cyflwynydd Chwaraeon